Psalms 121

Yr Arglwydd sy'n gofalu amdanat

Cân yr orymdaith.

1Dw i'n edrych i fyny i'r mynyddoedd.
O ble daw help i mi?
2Daw help oddi wrth yr Arglwydd,
yr Un wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear.
3Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro;
dydy'r Un sy'n gofalu amdanat ddim yn cysgu.
4Wrth gwrs! Dydy'r un sy'n gofalu am Israel
ddim yn gorffwys na chysgu!
5Yr Arglwydd sy'n gofalu amdanat ti;
mae'r Arglwydd wrth dy ochr di
yn dy amddiffyn di.
6Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd,
na'r lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos.
7Bydd yr Arglwydd yn dy amddiffyn rhag pob perygl;
bydd yn dy gadw di'n fyw.
8Bydd yr Arglwydd yn dy gadw di'n saff
ble bynnag ei di,
o hyn allan ac am byth.
Copyright information for CYM